
Wedi’i leoli o fewn campws y Brifysgol, mae’r ganolfan yn dod â 120 o wyddonwyr a myfyrwyr amgylcheddol o’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a Phrifysgol Bangor at ei gilydd, a bydd gwybodaeth ac arbenigedd cyfunedig y bobl yma’n torri drwy ffiniau gwyddonol traddodiadol. Bydd y ffordd arloesol yma o weithio yn ein helpu ni ddod o hyd I atebion ar gyfer y problemau amgylcheddol yr ydym yn eu gwynebu. Bydd y meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn cynnwys:
Adleoliadau ac effeithiau’r maetholion a’r halogyddion o’r mynyddoedd i’r môr: Mae yna gysylltiadau agos rhwng ein tir, afonydd a’n hardaloedd arfordirol ond yn draddodiadol maent wedi cael eu hymchwilio a’u rheoli ar wahân. Bydd CAC yn dod a gwyddonwyr sy’n arbenigo mewn llifoedd carbon, maetholion a halogyddion o fewn a rhwng yr ecosystemau gwahanol yma at ei gilydd, i lunio modelau er mwyn rhagfynegi beth fydd tueddiadau’r dyfodol gan roi pwyslais mawr ar y newid yn yr hinsawdd.
Ecoleg ac Esblygiad Moleciwlaidd: Bydd CAC yn darparu llwyfan dechnegol cyffredinol ac amrywiaeth o arbenigedd ar dechnolegau moleciwlaidd, megis dilyniant genynau, olion bysedd genetig a genomegau i fynd i’r afael â chwestiynau am effaith newidiadau amgylcheddol o waith dyn, a newid amgylcheddol naturiol ar organebau o fewn yr amgylcheddau gwahanol hyn. Bydd y ffaith y gall amrywiaeth geneteg gael ei ymchwilio
ymhob biota, ganiatáu I ymdrechion i waith ymchwiliol
gael eu cyfannu dros ffiniau tacsonomig traddodiadol.
Rheoli adnoddau: Byddwn yn canolbwyntio ar ganfod y blaenwyr a goblygiadau newidiadau i’r ffordd a reolir yr adnoddau mewn sustemau bychan, ond sy’n cael eu defnyddio i’r eithaf. Bydd y prif
ddatblygiadau a fydd yn cael eu gwerthuso yn cynnwys sustemau newydd i reoli’r tir gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol,
ffermio dalgylch ystyriol, sustemau crop newydd a chynyddu’r niferoedd o goed a’u cynaladwyedd o dan hinsawdd sy’n newid a
llygredd yn yr aer. Bydd hyn yn golygu integreiddio’n dau brif
faes o wyddoniaeth gydag arbenigedd cymdeitheconomaidd
i ganfod yr effeithiau ar ddefnyddwyr dynol a’r prif adnoddau
megis priddoedd a dwr.
|